P-04-423
: Cartref Nyrsio Brooklands
Geiriad y
ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i ystyried a fyddai lleoli safle amwynder dinesig tua 30 metr
o Gartref Nyrsio Brooklands yn tresbasu ar hawliau dynol preswylwyr
y cartref.
Gwybodaeth
ategol
: Mae staff Brooklands a pherthnasau’r cleientiaid yn
anfodlon iawn. Mae’r cyngor yn cynnig lleoli’r
amwynderau dinesig o Ddinbych y Pysgod ger Cartref Nyrsio
Brooklands. Rydym yn teimlo’n gryf y dylai’r preswylwyr
dreulio’u diwrnodau olaf yn mwynhau heddwch a thawelwch, ac
na ddylai sŵn,
llygredd, traffig ac amhariad gan wylanod ac yn y blaen amharu
arnynt. Mae ein cleientiaid yn oedolion bregus nad ydynt yn
gallu mynegi eu barn ac felly mae angen eich cymorth chi
arnynt. A hoffech chi dreulio gweddill eich bywyd
â’r tip sbwriel yn gymydog i chi? Ni fyddem ni’n
dymuno hynny. Gofynnwn i chi helpu gyda’n deiseb a
llofnodi isod.
Prif
ddeisebydd: Darren
Umanee
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2
Hydref 2012
Nifer y llofnodion: 115
Casglwyd dros 4484 o lofnodion gan ddeisebau
cysylltiedig.